Cynllun Cyhoeddiadau

Cynllun cyhoeddi

Yr ydym wedi cyhoeddi Cynllun Cyhoeddi yn unol ag adran 19 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Pwrpas y Ddeddf yw i hyrwyddo mwy o ddidwylledd gan awdurdodau cyhoeddus.

Mae’r cynllun cyhoeddi yn ganllaw i wybodaeth allweddol  a gyhoeddir yn rheolaidd neu y trefnir ei bod ar gael gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Gellir canfod llawer iawn mwy o wybodaeth ynghylch Asiantaeth yr Amgylchedd trwy gysylltu â ni.

Canllaw i wybodaeth

Caiff ein Pwyllgorau Amddiffyn rhag Llifogydd Rhanbarthol eu rhestru, yn ogystal, fel rhai sydd â dyletswydd  i gyhoeddi Cynllun Cyhoeddi. Maent wedi mabwysiadu’r un cynllun hwn a rhychwantir eu gwybodaeth hwy yn ein ‘Canllaw i Wybodaeth’.

Mae’r Ganllaw i Wybodaeth yn rhoi manylion ynghylch pa wybodaeth yr ydym wedi trefnu ei bod ar gael o dan bob dosbarth o wybodaeth a sut i gyrchu’r wybodaeth.