Mynediad at wybodaeth

Mae deddfwriaeth yn rhoi cyfarwyddyd i ni ar sut i wneud gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth

O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2005, gall unrhyw un wneud cais am wybodaeth gan awdurdod cyhoeddus sydd â swyddogaethau yn Lloegr, Cymru ac/neu Ogledd Iwerddon.

Y bwriad yw hyrwyddo diwylliant o ddidwylledd ac atebolrwydd ar draws y sector gyhoeddus. Fodd bynnag, o dan rhai amgylchiadau, gellir dal rhai mathau penodol o wybodaeth yn ôl os oes rheswm da iawn dros wneud hynny, er enghraifft os yw rhyddhau'r wybodaeth yn gallu cyflwyno risg i ddiogelwch cenedlaethol neu ddiogelwch cyhoeddus, neu pe byddai gwneud hyn yn torri'r Ddeddf Diogelu Data.

Mae gwefan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhestru'r eithriadau ble gall corff cyhoeddus wrthod rhyddhau gwybodaeth.


Rheoliadau gwybodaeth Amgylcheddol

Daeth Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIRs) i rym ar yr un amser â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Maent yn egluro ac yn ymestyn hawliau blaenorol i wybodaeth amgylcheddol.

Mae gan y cyhoedd hawl i gael mynediad at wybodaeth amgylcheddol sy'n cael ei dal gan awdurdodau cyhoeddus a rhai sefydliadau eraill. Mae'r diffiniad o "wybodaeth amgylcheddol" yn eang ac yn trafod elfennau o'r amgylchedd, megis tir, dŵr, organebau biolegol ayyb, ond hefyd mesurau a gweithgareddau sy'n gallu effeithio ar y rhain, gan gynnwys dadansoddiad economaidd o fesurau a gweithgareddau o'r fath.

Gellir canfod rhagor o wybodaeth ar EIRs a sut i wneud cais ar wefan Defra.


 

Deddf Diogelu Data

Mae’r Ddeddf Diogelu Data 1998 (DDD) yn llywodraethu'r modd yr ydym yn rheoli gwybodaeth bersonol am unigolion byw y gellir eu hadnabod. Mae rheoli gwybodaeth bersonol yn cynnwys, ei chasglu a'i defnyddio, ei chywirdeb a pherthnasedd, ei chadw, a'i diogelwch a chael gwared â hi. Mae'n rhoi hawl i unigolion wneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol sy'n cael ei dal amdanynt, a'i derbyn o fewn cyfyngiad amser statudol. Mae'r DDD yn berthnasol i wybodaeth bersonol sy'n cael ei dal ar ffurf gyfrifiadurol neu ar ffurf ffisegol, sy'n cynnwys cofnodion clywedol neu fideo, microffilm, neu ar bapur ayyb

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chaffael, phrosesu, storio, dadlennu a'i gwaredu mewn modd sy'n cydymffurfio â'r DDD. Gellir canfod manylion pellach am ddefnyddiau a dadleniadau gwybodaeth bersonol ar ein tudalen Polisi Preifatrwydd.