Paratowch gynllun llifogydd ar gyfer eich busnes

Paratoi cynllun llifogydd a’i roi yn ei le yw’r peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud er mwyn paratoi eich busnes am lifogydd.

Mae cynllun llifogydd yn ddogfen ysgrifenedig sy’n amlinellu sut bydd eich busnes yn ymateb i lifogydd.

Dylai gynnwys:

  • Rhestr o gysylltiadau pwysig, gan gynnwys Llinell Llifogydd 0845 988 1188, gwasanaethau adeiladu, cyflenwyr a chysylltiadau ymgilio ar gyfer staff.
  • Disgrifiad  neu fap yn dangos lleoliadau eiddo allweddol, deunyddiau gwarchodol a phwyntiau diffodd gwasanaethau.
  • Strategaethau sylfaenol er mwyn diogelu eiddo, atal toriad mewn busnes a helpu adferiad.
  • Rhestrau gwirio trefnau y gall y staff gael gafael arnynt yn gyflym yn ystod llifogydd.

Os yw llifogydd ar fin dod, eich prif flaenoriaeth yw sicrhau fod eich staff yn ddiogel.

Dylech adolygu a diweddaru eich cynllun bob blwyddyn.

Join the discussion

Flood Group UK is a Facebook community for people affected by or at risk of flooding. Join now for help, news and to share your experiences.

Dolenni cysylltiedig