Pam ddylech chi baratoi am lifogydd?

Gall y rhan fwyaf o fusnesau arbed rhwng 20 a 90 y cant o’r gost o stoc golledig ac offer symudol trwy weithredu er mwyn paratoi o flaen llaw am lifogydd.

Gallai cymryd camau i baratoi am lifogydd:

  • gwtogi’n sylweddol ar golledion ariannol, difrod i eiddo ac aflonyddu ar fusnes;
  • helpu i gydymffurfio â gofynion rheoliadol fel Deddf Atebolrwydd y Deiliad 1984;
  • eich gwneud yn llai agored i atebolrwydd sifil neu droseddol;
  • gwella delwedd eich busnes a’i hygrededd gyda gweithwyr, cwsmeriaid, cyflenwyr a’r gymuned;
  • helpu i gyflawni eich cyfrifoldeb moesol i ddiogelu gweithwyr, y gymuned a’r amgylchedd;
  • eich helpu i gaffael sicrwydd yswiriant.

Gall peidio â pharatoi ar gyfer llifogydd achosi:

  • colledion ffisegol o eiddo, deunyddiau a stoc;
  • aflonyddiad pwysig i’ch busnes;
  • problemau staff fel cwymp ym morâl eich staff;
  • costau adfer trwm a dyled ariannol;
  • erydu hyder cwsmeriaid;
  • diffygdalu cytundebau busnes.

Map llifogydd

Ydych chi mewn perygl o ddioddef llifogydd?Nodwch eich cod post neu enw lle i gael gwybod nawr...

Dolenni allanol

We are not responsible for the content of other web sites.

Dolenni cysylltiedig