Gwybodaeth i berchnogion ac ymgymerwyr dŵr ynglŷn â rheoliadau diogelwch cronfeydd dŵr.
Mae'r rhan fwyaf o gronfeydd dŵr yn dal llawer iawn o ddŵr, ac uwchben lefel y ddaear. Mae'n hollbwysig bod cronfeydd dŵr yn cael eu gweithredu a'u rheoli’n ddiogel i leihau peryglon llifogydd. Gall unrhyw broblemau gydag argae arwain at oblygiadau difrifol, gan gynnwys colli bywyd.
Ni yw'r awdurdod gorfodi ar gyfer Deddf Cronfeydd Dŵr 1975. Mae'r tudalennau hyn yn cyflwyno rheoliadau diogelwch a chyfrifoldebau perchnogion cronfeydd dŵr (ymgymerwyr).
Ymgynghoriad ar gronfeydd dŵr perygl uchel yng Nghymru a Lloegr
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal o 17 Tachwedd 2011 ar y dewisiadau rydym wedi’u datblygu ar sut rydym yn cynnig dynodi cronfeydd dŵr yn 'perygl uchel'.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am 14 wythnos.