Mae’r rhan fwyaf o berchenogion tai’n barod i dalu mwy am gartrefi sydd â graddfa eco-gartref dda. Gall mesurau effeithlonrwydd adnoddau gael eu gosod am ychydig iawn o gost ychwanegol, neu ddim, a byddant yn arbed costau cynnal.
Crynodeb
Mae adeiladu cynaliadwy yn ymwneud â mwy na dim ond adeiladwaith adeiladau; mae'n cynnwys yr holl faterion amgylcheddol sy'n cael eu cynnwys yn yr adran hon.
Mae adeiladu, cynnal a meddiannu tai yn cyfrif am tua 50 y cant o allyriadau carbon deuocsid y Deyrnas Unedig. Mae datblygiadau newydd yn cynnig cyfle rhagorol i adeiladu cartrefi a swyddfeydd sy'n well i'r amgylchedd ac sydd â chostau cynnal rhatach.
Gall dyluniad datblygiad ddylanwadu ar ffordd o fyw'r defnyddwyr. Ynghyd â lleoliad, gosodiad a gogwydd adeilad, gall dylunio gael effaith bellgyrhaeddol ar yr amgylchedd.
Defnydd effeithlon ar adnoddau
Rydym yn croesawu datblygiadau newydd sy'n ymgorffori effeithlonrwydd ynni. I fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae angen i ni leihau'r defnydd ar ynni ar frys trwy fabwysiadu technolegau mwy effeithlon. Mae angen i ni hefyd gynhyrchu ynni o ffynonellau sy'n rhyddhau llawer llai - neu ddim - allyriadau carbon deuocsid. Rydym yn cefnogi'r cynnydd hwn mewn ynni adnewyddadwy, ond dim ond ar yr amod ei fod yn digwydd mewn modd sy'n sensitif yn amgylcheddol gan ei fod yn gallu cael effeithiau ar fioamrywiaeth, tirlun, trafnidiaeth ac ansawdd aer.
Bydd cynnwys mesurau effeithlonrwydd ynni a dŵr yn eich datblygiad yn golygu bod y meddiannwyr yn gallu cael cartrefi sy'n fwy fforddiadwy i'w cynnal. Mae gan brynwyr tai hefyd fwy a mwy o ddiddordeb ym mherfformiad amgylcheddol eu cartrefi. Datgelodd ymchwil a gyflawnwyd yn 2004 fod 84 y cant o berchenogion tai'n barod i dalu 2 y cant ychwanegol am eiddo sydd â graddfa eco-gartref dda (ymchwil CABE, WWF a Halifax).
Mae ein hymchwil ein hunain wedi amlygu buddion cost adeiladu cartrefi yn ôl safonau amgylcheddol uwch. Mae wedi dangos y byddai cost gwella 25 y cant ar effeithlonrwydd adnoddau presennol cartref yn £800, ond byddai'n arbed tua £138 y flwyddyn mewn biliau cyfleustodau. Cyflawnwyd hyn yn bennaf trwy welliannau i effeithlonrwydd ynni, gan nad oes fawr ddim o gost, neu ddim cost o gwbl i gyflawni arbedion effeithlonrwydd yn achos gwastraff a dŵr.
Tystysgrifau Perfformiad Ynni
Mae Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCau) yn raddfeydd ynni ar gyfer cartrefi, yn debyg i'r 'graddfeydd oergelloedd' sy'n hwylus i'r defnyddiwr. Maent yn orfodol fel rhan o Becynnau Gwybodaeth am Eiddo o 1 Mehefin 2007 ymlaen.
Bydd y tystysgrifau yn amlinellu costau gwres, dŵr poeth a golau mewn cartrefi a byddant yn rhoi cyngor ymarferol ar sut i dorri'r costau hyn a gostwng allyriadau.
Mae adeiladu uwchlaw'r safonau gofynnol yn llawer gwell fel y gall ynni gael ei ostwng dros oes yr adeilad. Bydd mwy o gost i chi o ddod ag adeiladau presennol i fyny i'r safon yn ddiweddarach trwy ôl-osod inswleiddio ychwanegol.
Gall adeiladau fflatiau fod yn addas ar gyfer cynlluniau gwres a phŵer cyfun, a ffurfiau eraill o gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Ar raddfa lai, gall toeau gwyrdd gadw'r adeilad yn lled oer yn ystod yr haf a darparu inswleiddio thermol yn ystod y gaeaf. Gallant gael eu hadeiladu i raddau helaeth o wastraff dymchwel, fel briciau wedi'u mathru. Beth bynnag fo maint y datblygiad, gall trefn yr adeiladau helpu i wneud y mwyaf o ynni solar a lleihau amlygiad i'r oerfel.
Mae manteision amgylcheddol mawr i'w cael o ddefnyddio'r ddaear fel ffynhonnell gwres a/neu oeri ar gyfer adeiladau, ar yr amod yr eir i'r afael â'r peryglon o lygru dŵr daear.
Ansawdd
Bydd llawer o adeiladau'n cael eu haddasu ar gyfer defnydd gwahanol yn ddiweddarach yn eu hoes. Er na allwn ragweld at ba ddiben y bydd hyn, mae'n llawer mwy ymarferol adnewyddu ac addasu adeiladau os cawsant eu hadeiladu'n wreiddiol o ddefnyddiau da ac i ansawdd priodol ar gyfer eu hoes ddisgwyliedig.
Mae ansawdd yn fudd i'r amgylchedd adeiledig. Bydd adeiladu yn ôl ansawdd da yn gostwng gwastraff adnoddau.
Cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus
Dylech ddarparu cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da â'ch safle er mwyn annog pobl i ddefnyddio llai ar eu ceir. Siaradwch â'r awdurdod cynllunio lleol i wneud yn siwr bod digon o drafnidiaeth gyhoeddus i'ch safle ac oddi wrtho, a holwch a allwch gysylltu'ch datblygiad chi â'u cynlluniau teithio gwyrdd.
Meddwl ar sail cylch bywyd
Mae llawer i'w ennill o adolygu eich cadwyn gyflenwi cyn cychwyn ar brosiect adeiladu sylweddol. Gall hyn eich helpu chi i gael deunyddiau o faint gwell, cynhyrchion sydd â manylion gwell a'r rheiny sydd â llai o wastraff pecynnu. Gallech droi at gynlluniau 'cymryd yn ôl' ar gyfer pecynnu cludo.
Mae'r Llywodraeth yn datblygu cod ar gyfer cartrefi cynaliadwy i wella'r ffordd y caiff cartrefi eu hadeiladu a'u rhedeg. Hefyd, bydd datganiad polisi cynllunio newydd ar newid yn yr hinsawdd. Rydym yn eich annog chi i groesawu meddwl ar sail cylch bywyd trwy ddefnyddio defnyddiau a thechnegau adeiladu sy'n fwy effeithlon o ran adnoddau. Mae hyn yn golygu defnyddio defnyddiau sy'n cael yr effeithiau lleiaf yn ystod gwaith adeiladu ac wrth eu defnyddio, ond hefyd yr effeithiau lleiaf ar ddiwedd eu hoes. Bydd defnyddio'r rhain yn gwella'ch prosiect a'ch enw da.