Mae carthu yn golygu tynnu tywod a gro o'r arfordir neu wely'r môr.
Gwneir hynny er mwyn:
- cadw ein dyfrffyrdd yn fordwyadwy
- cael gafael ar ddeunydd ar gyfer prosiectau adeiladu
- ailosod y deunyddiau a gollwyd o draethau, oherwydd erydu.
Sut mae carthu yn effeithio ar erydu arfordirol?
Honnir weithiau fod carthu yn achosi erydu arfordirol, neu ei wneud yn waeth, gan fod hynny wedi digwydd yn y gorffennol.
Cynhaliwyd amrywiol astudiaethau'n ddiweddar i asesu a yw carthu yn gwneud yr ardaloedd cyfagos yn fwy agored i erydu ai peidio. Dengys canlyniadau ymchwil, megis y rhai o'r Astudiaeth Cludo Gwaddod De Môr y Gogledd, nad yw carthu, am ei fod yn cael ei reoli'n llym ac yn ofalus yn nyfroedd y DU, yn cael effaith ar erydu arfordirol mwyach.
Mae angen trwydded i garthu. Cynhelir asesiadau trylwyr i sicrhau na fydd carthu yn cael effaith negyddol ar yr arfordir na'r amgylchedd morol cyn y rhoddir trwydded.
Mae cloddio am agregau yn y môr a chael gwared ar wastraff treillio yn cael ei reoleiddio gan yr Asiantaeth Môr a Physgodfeydd yn Lloegr, a Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghymru. Yn Lloegr, mae Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir newydd yn rhoi grym i gorff newydd - Y Sefydliad Rheoli Morol - ar yr holl faterion trwyddedu a rheoleiddio o amgylch treillio yn y môr o Ebrill 2011.
Dylai pawb sy’n ymgymryd â threillio ddilyn egwyddorion arfer da.