Sut gallaf fod yn barod?

Paratowch ar gyfer llifogydd drwy ddilyn rhai camau syml. Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion llifogydd am ddim, lluniwch gynllun llifogydd a dysgwch am ffyrdd o leihau effaith llifogydd ar eich cartref neu'ch busnes.

Cofrestrwch ar gyfer Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol

Ni allwn atal y môr na'r afonydd rhag gorlifo bob tro, ond gallwn ddweud pryd mae'n mynd i ddigwydd. Mae tua 70 y cant o'r rhai a all gofrestru ar gyfer Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol dal heb wneud hynny. Os ydych yn un ohonynt, cofrestrwch nawr.

Mae Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol yn wasanaeth am ddim sy'n darparu rhybuddion rhag llifogydd yn uniongyrchol i chi dros y ffôn, ffôn symudol, e-bost, negeseuon testun SMS a ffacs.

Cofrestrwch ar gyfer Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol drwy ffonio'r Llinell Llifogydd ar 0845 988 1188 neu ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod.

Mae cyngor syml ar beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd hefyd ar gael o'r Llinell Llifogydd a Typetalk 0845 602 6340.