Grym Adrodd ar Addasiadau

Mae Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 yn rhoi grym i’r Llywodraeth roi gorchymyn i gyrff cyhoeddus ac ymgymerwyr statudol, fel y cwmnïau cyfleustodau, i roi adroddiad ar y modd y byddant yn ymdrin â’u risgiau o ran newid hinsawdd.

Ar y dudalen hon gallwch lawr lwytho ein hadroddiad ar addasiadau, fe allwch hefyd weld cyfarwyddyd gan sefydliadau yng Nghymru a Lloegr sydd wedi derbyn Gorchymyn neu wahoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi adroddiad.

Our adaptation report

The Environment Agency was one of the first public bodies asked to report under the Adaptation Reporting Power, you can read our report by following the link below.

Our adaptation report - managing the environment in a changing climate

Cyfarwyddyd i awdurdodau sy’n adrodd

Mae’r cyfarwyddyd hwn ar gyfer sefydliadau yng Nghymru a Lloegr sydd wedi derbyn Gorchymyn neu wahoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi adroddiad. Fe’i dyluniwyd i helpu awdurdodau sy’n rhoi adroddiad i gynhyrchu adroddiad o safon uchel sy’n bodloni meini prawf y Llywodraeth.

Cyfarwyddyd statudol

Rydym yn argymell y dylech ddarllen cyfarwyddyd statudol y Llywodraeth cyn darllen cyfarwyddyd rhoi adroddiad ar addasiadau Asiantaeth yr Amgylchedd.

Ein cyfarwyddyd addasu

Bwriadwyd ein cyfarwyddyd i gyd-fynd â’r Cyfarwyddyd Statudol i Awdurdodau sy’n Adrodd 2009. Nid yw’n ofynnol i awdurdodau sy’n adrodd ystyried y cyfarwyddyd hwn, ond rydym yn gobeithio y bydd yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol.

Mae ein cyfarwyddyd wedi ei lunio yn ôl y meysydd allweddol canlynol o ran risg newid hinsawdd lle mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd arbenigedd a chyfrifoldeb arbennig:

Ym mhob un o’r meysydd hyn mae’r cyfarwyddyd yn rhoi gwybodaeth a chyngor i’ch helpu ar gamau allweddol yn y broses o lunio adroddiad: asesu’r risgiau presennol, asesu risg newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol ac wrth ddynodi camau addasu addas.

Rhagor o wybodaeth

Rydym hefyd wedi cynnwys adran ar Arfarnu dewisiadau. Mae’r cyfarwyddyd statudol yn ei gwneud yn glir bod llwyddiant camau i addasu yn dibynnu ar asesu eu heffeithiau ehangach, gan gynnwys eu heffaith ar yr amgylchedd naturiol (para. 5.18).

Dylai’r camau addasu y byddwch yn eu cymryd anelu at gadw eu heffeithiau amgylcheddol cyn lleied â phosibl, a phan fydd hynny’n bosibl, ddatblygu camau a fydd o fudd i fywyd gwyllt. Mae’r adran hon hefyd yn cynnwys cyngor ar sicrhau na fydd eich camau addasu yn cynyddu’r perygl o lifogydd yn rhywle arall.