Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn trwyddedu diwydiant, busnes ac unigolion i wneud gweithgareddau penodola ddichon lygru'r amgylchedd.
Pan dderbyniwn gais am drwydded o'r fath, byddwn yn trefnu fod y cais hwnnw a gwybodaeth berthnasol arall ar gael i'r cyhoedd. Gwnawn hyn cyn inni benderfynu a ddylid rhoi'r drwydded ai peidio, neu ba amodau a atodwn ato.
Wedi rhoi unrhyw drwydded, trefnir bod gwybodaeth bellach ar gael ar y cofrestrau yn ogystal. Gall hyn, yn nodweddiadol, gynnwys gwybodaeth arolygu, manylion unrhyw dor-amodau'r drwydded, unrhyw orfodi ar ein rhan ni, ac unrhyw geisiadau am newid telerau'r drwydded.
Gweler y Telerau ac Amodau.
Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol
Mae'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, a ddaethant i rym yn Ebrill 2010, bellach yn cyfuno'r Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (ARhLl) blaenorol, Trwyddedu Rheoli Gwastraff, caniatáu Gollwng Dŵr, caniatadau Dŵr Daear a Rheoliad Sylweddau Ymbelydrol. Bydd y newidiadau hyn yn gwneud y rheoliadau’n fwy effeithiol, ac yn llai o faich ar fusnes.
Defnydd Masnachol
Yn ogystal â'r hawliau defnyddio a roddir yn yr hysbysiad hwnnw, gallwch gymryd un copi o unrhyw ran o gynnwys ein Hadran Cofrestr Gyhoeddus, ar yr amod y deallwch nad ydym yn rhoi unrhyw ganiatâd hawlfraint yng nghyswllt detholiadau o'r fath sydd wedi'u copïo.
Neges Bwysig ar gyfer Defnyddwyr y Gofrestr Rheoli Gwastraff Gyhoeddus
Sylwch mai trwy ddefnyddio rhif Trwydded Rheoli Gwastraff yn unig y gellir chwilio’r gofrestr Rheoli Gwastraff gyhoeddus yn ôl rhif trwydded. Nid oes angen defnyddio’r rhagddodiad wrth deipio rhif: dim ond y ffigurau.
Rhoddir trwyddedau newydd, neu rai a newidiwyd yn ddiweddar, o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol newydd, a rhoddir iddynt gyfeirnod sy’n gyfuniad o lythrennau a ffigurau: CP3392SD/V002, er enghraifft. Yn anffodus, nid oes modd chwilio am y cyfeirnod newydd hwn ar y system ePR, ar hyn o bryd. Am drwyddedau sydd â chyfeirnod newydd, dylid chwilio o dan Enw, Cod Post neu Dref y Cwmni. Os cewch drafferth canfod unrhyw wybodaeth am drwydded sydd ar y gofrestr Rheoli Gwastraff gyhoeddus, gallwch hefyd alw ein canolfan cyswllt cwsmeriaid ni ar 08708 506 506, neu e-bostio dutyofcare@environment-agency.gov.uk.
Os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach ynghylch y gwasanaeth hwn, cysylltwch â: